Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Ionawr 2019
Amser:
09.30 -
11.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5192
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Helen Mary Jones AC David Rees AC Jayne Bryant AC |
Tystion: |
Alex Howells, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) Julie Rogers, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) Sue Evans, Social Care Wales Sarah McCarty, Social Care Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.
1.4 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
1.5 Yn unol â rheol sefydlog 17.24A, datganodd David Rees AC fod ei wraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
2 Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol): Llythyr gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Gweinidog Gwladol dros Iechyd - 09 Ionawr 2019
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Ymateb Llywodraeth Cymru
3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 o'r cyfarfod ar 31 Ionawr
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 31 Ionawr, pan fydd y Pwyllgor yn gwneud gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o'i ymchwiliad ar effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr.
5 Craffu cyffredinol: Ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.